![]() | |
Math | un o gynghorau'r Alban, lieutenancy area of Scotland, Ardal yn yr Alban ![]() |
---|---|
Prifddinas | Lochgilphead ![]() |
Poblogaeth | 85,870 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 6,908.6739 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 55.98°N 5.45°W ![]() |
Cod SYG | S12000035 ![]() |
GB-AGB ![]() | |
![]() | |
Mae Argyll a Bute (Saesneg : Argyll and Bute ; Gaeleg yr Alban: Earra-Ghaidheal agus Bòd) yn un o 32 awdurdod unedol yr Alban, a leolir yng ngorllewin canolbarth y wlad. Lleolir canolfan weinyddol y cyngor yn Lochgilphead.
Argyll a Bute yw'r ardal weinyddol ail fwyaf yn yr Alban. Os cynhwysir yr ynysoedd niferus, ceir dros 3,000 milltir o arfordir, sy'n fwy nag arfordir cyfan Ffrainc.
Mae'r cyngor yn ffinio ag Ucheldir, Perth a Kinross, Stirling a Gorllewin Swydd Dunbarton. Mae ei ffin yn rhedeg trwy Loch Lomond. Ffurfiwyd yr ardal cyngor bresennol yn 1996.